Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA538 – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi a chynnal cynllun gofal a chymorth ar gyfer oedolyn neu blentyn y mae’n ddyletswydd ar yr awdurdodau lleol i ddiwallu eu hanghenion a nodwyd ac i greu cynllun cymorth i ofalwr y mae’n ddyletswydd arnynt i ddiwallu ei anghenion a nodwyd. Mae’r Rheoliadau hyn yn amlinellu swyddogaethau awdurdodau lleol o ran cynllunio gofal a chymorth a threfniadau adolygu.
1. Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2.
2. Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n amlinellu swyddogaethau awdurdodau lleol o ran cynllunio gofal a chymorth a threfniadau ar gyfer adolygiad, yn rhan o becyn o reoliadau a wnaethpwyd i weithredu Deddf 2014.
Mae’r fframwaith deddfwriaethol presennol ynghylch diwallu anghenion a nodwyd yn gymhleth. Mae’r Deddfau a ganlyn yn deddfu ar wahân ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr:-
Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990
Deddf Plant 1989
Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995
Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000
Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004
Credir bod hyn yn arwain at aneffeithlonrwydd a dulliau darniog o fewn y system bresennol, sy’n achosi anawsterau i ddefnyddwyr gwasanaethau, ymarferwyr, cyrff rheoleiddio a’r farnwriaeth wrth geisio cymhwyso’r gyfraith yn deg ac yn gyfartal.
Mae Deddf 2014 yn cyflwyno mwy o gysondeb o ran arferion ledled Cymru drwy gyflwyno newidiadau i’r modd y caiff cynlluniau gofal a chymorth eu paratoi a’u cynnal ar gyfer oedolion a phlant, a’r modd y caiff cynlluniau cymorth eu paratoi ar gyfer gofalwyr.
Gwasanaethau Cyfreithiol
1 Mehefin 2015